Niwl

Pont y Borth, Porthaethwy, wedi "torri ar ei hanner", fel petai, gan niwl trwchus (1958).

Cwmwl o ddiferion dŵr yn yr atmosffer is sy'n cyfyngu gwelededd i 1000 m neu'n llai yw niwl.

Mathau o niwl

  • Mwrllwch

Math o niwl llygredig yw mwrllwch (Saesneg, smog).

  • ”Mwg Sipsiwn”

Ymadrodd o rai mannau yng Nghymru yw hwn i ddisgrifio’r carpiau o niwl uwchben ardaloedd di-dor o goed dan amodau arbennig (sy’n ysgogi dychmygu gwersyll o sipsiwn yn y coed). Math o gwmwl stratus yw hyn. Ar ôl sbelen o law mae’r gwynt yn aml yn disgyn; mae’r aer uwchben y coed yn llaith (wedi ei fwyhau gan drydarthiad y coed). Mae’r aer union uwchben yr ardal coed yn dueddol o fod yn fwy claear na’r mannau mwy agored oherwydd effaith cysgodol y coed, sydd yn ei dro yn cyddwyso’r gwlybaniaeth ac yn ysgogi’r glaw i ffurfio carpiau o niwl. Pan dderfydd y glaw mae’r niwl yn dueddol o godi fymryn dan ddylanwad cerryntoedd aer dyrchafol (megis y ffordd y mae niwl mwy trwchus yn ymffurfio’n haenen o gwmwl isel ychydig uwchben y ddaear). O’r diwedd, wrth i’r gwynt godi, mae’r awyr yn cynhesu a’r haul yn gwneud ei waith, mae’r carpiau niwl yn ymwasgaru

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) What is fog?. Swyddfa'r Tywydd. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
  2. (Saesneg) fog (weather). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 24 Chwefror 2014.
  3. Cyfieithad o esboniad y meteorolegydd Huw Holland Jones ym Mwletin Llên Natur rhifyn 40
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Eginyn erthygl sydd uchod am y tywydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.